Wrth ailolygu geiriau yn cynnwys yr elfen buwch, bu a buch (i gyd yn golygu ‘buwch’) yn ddiweddar ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru, deuthum ar draws criw difyr iawn o eiriau – buchfrech, buchfrechu, bufrechwr, gwrthfuchfrechwyr ac ati.
Bathwyd y gair buchfrechu yn y 19eg ganrif am ‘frechu (person) â brechlyn yn cynnwys firws brech y fuwch (er mwyn creu imiwnedd rhag y frech wen)’, sef ‘smallpox’. Roedd ymchwilio i hanes a defnydd y geiriau hyn llynedd, pan oedd y rhaglen frechu yn erbyn Covid 19 yn ei hanterth, yn ddifyr dros ben – o safbwynt y ddadl gymdeithasol yn ogystal â’r gofid am sgileffeithiau’r brechlyn ei hun.
Mae’r gair buchfrech neu brech y fuwch ei hun yn gyfieithiad o elfennau’r gair Saesneg cowpox (cowpog), a brech felly’n cyfeirio at y smotiau, y rash neu’r pox, sy’n ymddangos ar groen claf sy’n dioddef o’r afiechyd. Yn 1778, sylwodd Syr Edward Jenner fod pobl a oedd yn y gorffennol wedi dal cowpog neu frech y fuwch (sef afiechyd sy'n perthyn i’r frech wen ‘smallpox’, ond yn llai peryglus), yn datblygu imiwnedd rhag y frech wen, ac os oedden nhw yn ei ddal, roedden nhw’n llawer llai sâl ac felly’n fwy tebygol o oroesi. Dechreuodd Jenner arbrofi drwy roi brechlyn o frech y fuwch i bobl – vaccine yn Saesneg, a’r gair hwnnw’n dod o’r Lladin vaccinus sy’n golygu’n llythrennol ‘yn deillio o’r fuwch’. Felly ystyr vaccinate yn y cyfnod cynnar, fel buchfrechu yn Gymraeg, oedd rhoi brechlyn yn cynnwys firws brech y fuwch i berson. Gydag amser aeth vaccinate yn Saesneg i olygu rhoi unrhyw frechlyn i berson – ac yn y Gymraeg hepgorwyd yr elfen buch, ac aeth brechu, yn yr un modd i olygu rhoi brechlyn o unrhyw fath. Felly mae nifer ohonom wedi cael ein brechu rhag y ffliw neu rhag Covid 19.
O ran ei hanes, felly, ystyr sylfaenol brechu yw ‘rhoi brech’, sef rhoi rash neu pox i rywun. Ac yn y cyfnod cynnar, dyna’n union a wneid. Byddid yn casglu crawn y frech oddi ar groen claf, ac yn ei roi ar groen person iach, gan grafu drwy’r croen gyda chyllell neu ryw offeryn blaenllym er mwyn i’r firws fynd i mewn i’r gwaed.
Erbyn y 19eg ganrif, roedd pobl yn gyffredinol yn deall bod brechu trwch y boblogaeth (a phlant yn benodol) yn erbyn y frech wen yn lleihau achosion o’r salwch yn y gymdeithas, ac felly’n cadw lefel yr heintiadau i lawr. Ond yn hanner cyntaf y ganrif, gan nad oedd brechu’n orfodol, roedd nifer fawr yn gwrthod, – weithiau am resymau digon dilys (fel gofid am safon y brechlyn) ond gan amlaf oherwydd anwybodaeth a diffyg dealltwriaeth.
Er enghraifft, yn 1852 adroddwyd yn yr Eurgrawn Wesleaidd, xliv (1852), 44:
Yn y flwyddyn ganlynol, ar 1 Awst 1853, pasiwyd deddf yn ei gwneud hi’n orfodol i bob plentyn dderbyn brechiad o frech y fuwch cyn cyrraedd ei 3 mis oed – ac roedd dirwy i rieni na gydymffurfiai. Gweinyddid y rhaglen ym mhob ardal gan swyddogion cyflogedig a elwid yn fuchfrechwyr cyhoeddus ‘public vaccinators’, ac âi’r rhain o dŷ i dŷ gan fynd â chyfreithwyr gyda nhw’n aml, rhag ofn y byddai pethau’n mynd o chwith ac y byddai’n rhaid wynebu achos llys.
Ond y farn gyffredinol ymysg y boblogaeth oedd bod derbyn brechiad yn beth da, a chydymffurfiau’r rhan fwyaf o rieni. Er enghraifft, adroddwyd yng nghofnodion a chyfansoddiadau yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam 1888:
‘y farn gyffredinol ydyw fod buchfrechiad yn rhag-atalydd gwerthfawr i’r frech wen, ac os ceir y frech ar ol i fuchfrechiad gymeryd lle, y bydd hi lawer yn ysgafnach na phe buasai buchfrechiad heb gymeryd lle.’
Roedd buddion y cynllun brechu yn amlwg. Ond o’r cychwyn cyntaf roedd gwrthwynebwyr: y gwrthfuchfrechwyr – yr ‘anti-vaxxers’ yn ein hiaith ni heddiw. Cynyddodd eu llais hwy wrth i’r ganrif fynd rhagddi, yn enwedig mewn rhai rhannau o’r wlad, ac o ganlyniad ychwanegwyd cymal at y ddeddf yn 1898 yn caniatáu i rieni wrthod y brechiad ar sail ‘gwrthwynebiad cydwybodol’, ond roedd angen cyflwyno achos ffurfiol mewn llys a derbyn tystysgrif eithrio. O ganlyniad ceir nifer o adroddiadau yn y papurau newydd am achosion llys lle pledwyd yr hawl i eithrio plant o’r rhaglen frechu.
Weithiau cyflwynid gwrthwynebiad cwbl rhesymol. Mae’n amlwg mai pryder gwirioneddol am ddiogelwch a safon y brechlyn ei hun oedd yn poeni dyn o Langollen, wrth iddo gyflwyno achos o’r fath yn 1901. Adroddwyd yn y Llangollen Advertiser, 15 Tachwedd:
‘caniataodd yr ynadon i ddyn gael ei ddymuniad ei hun … [a ch]ael peidio buwchfrechu ei blant. Ei reswm ef dros wrthod gwneyd oedd, am fod cymmaint o wenwyno gwaed plant drwy gael eu buwchfrechu.’
Mae’n amlwg fod yr achosion o wenwyno yn gyffredin. Dro arall roedd y gwrthwynebiad ar sail egwyddor rhyddid dewis, neu ar sail ofn. Mae rhai o’r gwrthwynebiadau yn ddigri – ac yn amlwg yn cael eu gwneud ar sail anwybodaeth lwyr, fel y canlynol, o’r Drych, 19 Awst 1919, papur newydd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau:
O bori drwy bapurau newydd y cyfnod, gwelir bod tipyn o gydymdeimlad â’r gwrthfuchfrechwr, yn enwedig gan ambell olygydd papur newydd, tra bod eraill yn ffyrnig yn eu herbyn. Nid oes dim amheuaeth i ba garfan y perthyn awdur y cofnod hwn yn y Llan, 12 Ebrill 1889:
‘Nos Wener, bu y gwrth-fuch-frechwyr (mae y term yn ddigon, bron, i hollti esgyrn gên Cymro) yn awyru eu cwynion yn Nhy y Cyffredin …’
Na dim amheuaeth ychwaith am farn yr awdur hwn yn Papur Pawb, 10 Awst 1895, sy’n lleisio sawl rhagfarn ar yr un gwynt:
Dyna ddyfyniad i gnoi cil arno!
Mae’r erthyglau newydd ar y geiriau hyn bellach wedi eu cyhoeddi ar lein gan Eiriadur Prifysgol Cymru eleni; byddwn i’n eich annog hefyd i chwilio am enghreifftiau o'r geiriau ar Wefan Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol – cewch oriau o ddifyrrwch!