top of page
Search

Updated: Sep 27, 2022

Wrth ailolygu geiriau yn cynnwys yr elfen buwch, bu a buch (i gyd yn golygu ‘buwch’) yn ddiweddar ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru, deuthum ar draws criw difyr iawn o eiriau – buchfrech, buchfrechu, bufrechwr, gwrthfuchfrechwyr ac ati.


Bathwyd y gair buchfrechu yn y 19eg ganrif am ‘frechu (person) â brechlyn yn cynnwys firws brech y fuwch (er mwyn creu imiwnedd rhag y frech wen)’, sef ‘smallpox’. Roedd ymchwilio i hanes a defnydd y geiriau hyn llynedd, pan oedd y rhaglen frechu yn erbyn Covid 19 yn ei hanterth, yn ddifyr dros ben – o safbwynt y ddadl gymdeithasol yn ogystal â’r gofid am sgileffeithiau’r brechlyn ei hun.


Mae’r gair buchfrech neu brech y fuwch ei hun yn gyfieithiad o elfennau’r gair Saesneg cowpox (cowpog), a brech felly’n cyfeirio at y smotiau, y rash neu’r pox, sy’n ymddangos ar groen claf sy’n dioddef o’r afiechyd. Yn 1778, sylwodd Syr Edward Jenner fod pobl a oedd yn y gorffennol wedi dal cowpog neu frech y fuwch (sef afiechyd sy'n perthyn i’r frech wen ‘smallpox’, ond yn llai peryglus), yn datblygu imiwnedd rhag y frech wen, ac os oedden nhw yn ei ddal, roedden nhw’n llawer llai sâl ac felly’n fwy tebygol o oroesi. Dechreuodd Jenner arbrofi drwy roi brechlyn o frech y fuwch i bobl – vaccine yn Saesneg, a’r gair hwnnw’n dod o’r Lladin vaccinus sy’n golygu’n llythrennol ‘yn deillio o’r fuwch’. Felly ystyr vaccinate yn y cyfnod cynnar, fel buchfrechu yn Gymraeg, oedd rhoi brechlyn yn cynnwys firws brech y fuwch i berson. Gydag amser aeth vaccinate yn Saesneg i olygu rhoi unrhyw frechlyn i berson – ac yn y Gymraeg hepgorwyd yr elfen buch, ac aeth brechu, yn yr un modd i olygu rhoi brechlyn o unrhyw fath. Felly mae nifer ohonom wedi cael ein brechu rhag y ffliw neu rhag Covid 19.


O ran ei hanes, felly, ystyr sylfaenol brechu yw ‘rhoi brech’, sef rhoi rash neu pox i rywun. Ac yn y cyfnod cynnar, dyna’n union a wneid. Byddid yn casglu crawn y frech oddi ar groen claf, ac yn ei roi ar groen person iach, gan grafu drwy’r croen gyda chyllell neu ryw offeryn blaenllym er mwyn i’r firws fynd i mewn i’r gwaed.


Erbyn y 19eg ganrif, roedd pobl yn gyffredinol yn deall bod brechu trwch y boblogaeth (a phlant yn benodol) yn erbyn y frech wen yn lleihau achosion o’r salwch yn y gymdeithas, ac felly’n cadw lefel yr heintiadau i lawr. Ond yn hanner cyntaf y ganrif, gan nad oedd brechu’n orfodol, roedd nifer fawr yn gwrthod, – weithiau am resymau digon dilys (fel gofid am safon y brechlyn) ond gan amlaf oherwydd anwybodaeth a diffyg dealltwriaeth.


Er enghraifft, yn 1852 adroddwyd yn yr Eurgrawn Wesleaidd, xliv (1852), 44:

Yn y flwyddyn ganlynol, ar 1 Awst 1853, pasiwyd deddf yn ei gwneud hi’n orfodol i bob plentyn dderbyn brechiad o frech y fuwch cyn cyrraedd ei 3 mis oed – ac roedd dirwy i rieni na gydymffurfiai. Gweinyddid y rhaglen ym mhob ardal gan swyddogion cyflogedig a elwid yn fuchfrechwyr cyhoeddus ‘public vaccinators’, ac âi’r rhain o dŷ i dŷ gan fynd â chyfreithwyr gyda nhw’n aml, rhag ofn y byddai pethau’n mynd o chwith ac y byddai’n rhaid wynebu achos llys.


Ond y farn gyffredinol ymysg y boblogaeth oedd bod derbyn brechiad yn beth da, a chydymffurfiau’r rhan fwyaf o rieni. Er enghraifft, adroddwyd yng nghofnodion a chyfansoddiadau yr Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam 1888:


‘y farn gyffredinol ydyw fod buchfrechiad yn rhag-atalydd gwerthfawr i’r frech wen, ac os ceir y frech ar ol i fuchfrechiad gymeryd lle, y bydd hi lawer yn ysgafnach na phe buasai buchfrechiad heb gymeryd lle.’


Roedd buddion y cynllun brechu yn amlwg. Ond o’r cychwyn cyntaf roedd gwrthwynebwyr: y gwrthfuchfrechwyr – yr ‘anti-vaxxers’ yn ein hiaith ni heddiw. Cynyddodd eu llais hwy wrth i’r ganrif fynd rhagddi, yn enwedig mewn rhai rhannau o’r wlad, ac o ganlyniad ychwanegwyd cymal at y ddeddf yn 1898 yn caniatáu i rieni wrthod y brechiad ar sail ‘gwrthwynebiad cydwybodol’, ond roedd angen cyflwyno achos ffurfiol mewn llys a derbyn tystysgrif eithrio. O ganlyniad ceir nifer o adroddiadau yn y papurau newydd am achosion llys lle pledwyd yr hawl i eithrio plant o’r rhaglen frechu.


Weithiau cyflwynid gwrthwynebiad cwbl rhesymol. Mae’n amlwg mai pryder gwirioneddol am ddiogelwch a safon y brechlyn ei hun oedd yn poeni dyn o Langollen, wrth iddo gyflwyno achos o’r fath yn 1901. Adroddwyd yn y Llangollen Advertiser, 15 Tachwedd:


‘caniataodd yr ynadon i ddyn gael ei ddymuniad ei hun … [a ch]ael peidio buwchfrechu ei blant. Ei reswm ef dros wrthod gwneyd oedd, am fod cymmaint o wenwyno gwaed plant drwy gael eu buwchfrechu.’


Mae’n amlwg fod yr achosion o wenwyno yn gyffredin. Dro arall roedd y gwrthwynebiad ar sail egwyddor rhyddid dewis, neu ar sail ofn. Mae rhai o’r gwrthwynebiadau yn ddigri – ac yn amlwg yn cael eu gwneud ar sail anwybodaeth lwyr, fel y canlynol, o’r Drych, 19 Awst 1919, papur newydd Cymraeg yn yr Unol Daleithiau:

O bori drwy bapurau newydd y cyfnod, gwelir bod tipyn o gydymdeimlad â’r gwrthfuchfrechwr, yn enwedig gan ambell olygydd papur newydd, tra bod eraill yn ffyrnig yn eu herbyn. Nid oes dim amheuaeth i ba garfan y perthyn awdur y cofnod hwn yn y Llan, 12 Ebrill 1889:


‘Nos Wener, bu y gwrth-fuch-frechwyr (mae y term yn ddigon, bron, i hollti esgyrn gên Cymro) yn awyru eu cwynion yn Nhy y Cyffredin …’


Na dim amheuaeth ychwaith am farn yr awdur hwn yn Papur Pawb, 10 Awst 1895, sy’n lleisio sawl rhagfarn ar yr un gwynt:


Dyna ddyfyniad i gnoi cil arno!


Mae’r erthyglau newydd ar y geiriau hyn bellach wedi eu cyhoeddi ar lein gan Eiriadur Prifysgol Cymru eleni; byddwn i’n eich annog hefyd i chwilio am enghreifftiau o'r geiriau ar Wefan Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol – cewch oriau o ddifyrrwch!

32 views0 comments

Updated: Jun 3, 2022

[for the English version, please scroll down]


Cofnodwyd y darn byr hwn yn gynnar yn yr 17 ganrif gan yr ysgrifydd John Jones o Gellilyfdy, sir y Fflint, yn llawysgrif Peniarth 254. Mae’n disgrifio digwyddiadau rhyfeddol y flwyddyn 1607. (Dehonglais y dyddiadau gan ddefnyddio calendr Thomas Evans, Hendreforfudd (1596) ar ddechrau Peniarth 187.)


§1. 1606. Pan oedd oed Crist mil chwechant a chwech, o bobtv i Ddyddgwyl Bawl, i tarodd y mor allan y Mrvsto ac mewn amryw leoedd eraill val i bv kolleidion mawr ar ddynion a da.

§2. Ac yn y kynhaiaf hragwyneb yr ymddangossodd seren gynffonnoc rhwnge y gogledd a’r gorllewin, a hynny oedd ynghylch Dyddgwyl Vair Ddiwaethaf. A’r tymor hwnnw vv lawoc iawn fal na chad hav ond ychydig amyd.

§1. Ac o bobtv i Wyl Andras y vlwyddyn honno y dechrevodd hi rewi yn dost iawn, ac eira mawr hefyd ac vo rewodd y pryd hynny y prif avonydd mowrion i gyd val ir oeddid yn tramwy dros Demys a phob karaeds, ac yn mynd dros Dal y Kafn hyd ar yr jaf a thros Lynn Tegid a thros Ddyfrdwy o’r tv vchaf i bont Gaer, val ir oeddyd yn chware pel draed yn emyl y kawse.

§4. A llawer o ddefaid ac anifeiliaid a vvant veirw y vlwyddyn honno, sef 1607, a’r brain a’r adar hevyd a vvuant veirw val i bydde anodd iawn gael gweled yr haf (1608 rhac wyneb) vn vwyalchen nac aderyn bronfraith yn vyw.


Diweddariad i Gymraeg heddiw:


§1. 1606. Pan oedd oed Crist mil chwe chant a chwech, o gwmpas Dygwyl Pawl [25 Ionawr], fe lifodd y môr dros y tir ym Mryste ac mewn nifer o lefydd eraill, fel y bu colledion mawr o ran dynion a da byw.

§2. Ac yn ystod y cynhaeaf canlynol fe ymddangosodd seren gynffonnog rhwng y gogledd a’r gorllewin, ac roedd hynny o gwmpas Dygwyl Fair Ddiwethaf [8 Medi]. A bu’r tymor hwnnw’n lawiog iawn, fel na bu modd hau ond ychydig ŷd cymysg.

§3. Ac o gwmpas Gŵyl Andras [30 Tachwedd] y flwyddyn honno, fe ddechreuodd hi rewi’n galed iawn, a bu eira mawr hefyd. A’r pryd hynny fe rewodd y prif afonydd mawrion i gyd, fel bod pobl yn teithio ar draws afon Tafwys gyda phob math o gerbydau, ac yn teithio dros Tal-y-cafn ar yr iâ, a thros Lyn Tegid a thros afon Dyfrdwy o’r ochr uchaf i bont Caer, fel roedd rhai yn chwarae pêl-droed yn ymyl y cawsai.

§4. A bu llawer o ddefaid ac anifeiliaid farw yn y flwyddyn honno, sef 1607, a’r brain a’r adar hefyd a fu farw, fel y byddai’n anodd iawn gweld yr un fwyalchen nac aderyn bronfraith yn fyw yr haf canlynol, 1608.


Ambell sylw


Yn §1 sonnir am orlifiad y môr ym Mryste a'r ardal gyfagos ym mis Ionawr 1607 (sef 1606 yn ôl y calendr Julian). Mae rhai yn dadlau mai llanw uchel yn cyd-daro â thywydd stormus a achosodd y gorlifiad, ond mae eraill yn dadlau mai tsunami a’i hachosodd. Mae dadleuon cryf gan y ddwy ochr. Gellir darllen mwy yma. Roedd Brysto yn ffurf gyffredin yn Gymraeg ar yr enw Bristol, sy'n dod o Bristow neu Brigstow yn wreiddiol.

Yn §2 sonnir am seren gynffonnog a ymddangosodd ym mis Medi. Gallwn fod yn sicr mai comed Halley oedd hon – er nad oedd Edmond Halley wedi ei eni eto i roi ei enw iddi. Mewn astudiaeth o gynaeafau’r cyfnod 1480 i 1619, nododd W.G. Hoskins fod cynhaeaf 1607 wedi bod yn llwm iawn.


Yn §3 sonnir am aeaf caled 1607–8, pan rewodd afon Tafwys. Mae John Jones yma’n sôn am bob math o gerbydau yn croesi’r afon dros y rhew, ond hefyd fe gynhelid ffeiriau ar y rhew. Yng nghronicl Bryste ceir cofnod o'r cyfnod am aeaf 1607–8: ‘November the 20th 1607 began a frost which lasted till February 8 following at which time the River of Severn and Wye were so hard frozen that people did pass on foot from side unto the other and played gambols and made fires to roast meat upon the ice.’


Roedd Tal-y-cafn yn Nyffryn Conwy yn fan croesi pwysig dros afon Conwy, a byddai fferi yn cludo teithwyr dros yr afon nes codi pont yno yn 1897. Pêl draed oedd y ffurf arferol am ‘bêl droed’ ers talwm – yn yr un modd ag y dywedwn ni siop lyfrau am book shop y Sais.


1607: The Bristol Flooding, a Comet and Extreme Weather


This short account was written early in the 17th century by the scribe John Jones of Gellilyfdy, Flintshire, in NLW Peniarth MS 254. It describes the remarkable events of the year 1607. (I interpreted the dates using Thomas Evans of Hendreforfudd's calendar (1596), which can be seen at the beginning of Peniarth 187.)


§1. 1606. Pan oedd oed Crist mil chwechant a chwech, o bobtv i Ddyddgwyl Bawl, i tarodd y mor allan y Mrvsto ac mewn amryw leoedd eraill val i bv kolleidion mawr ar ddynion a da.

§2. Ac yn y kynhaiaf hragwyneb yr ymddangossodd seren gynffonnoc rhwnge y gogledd a’r gorllewin, a hynny oedd ynghylch Dyddgwyl Vair Ddiwaethaf. A’r tymor hwnnw vv lawoc iawn fal na chad hav ond ychydig amyd.

§1. Ac o bobtv i Wyl Andras y vlwyddyn honno y dechrevodd hi rewi yn dost iawn, ac eira mawr hefyd ac vo rewodd y pryd hynny y prif avonydd mowrion i gyd val ir oeddid yn tramwy dros Demys a phob karaeds, ac yn mynd dros Dal y Kafn hyd ar yr jaf a thros Lynn Tegid a thros Ddyfrdwy o’r tv vchaf i bont Gaer, val ir oeddyd yn chware pel draed yn emyl y kawse.

§4. A llawer o ddefaid ac anifeiliaid a vvant veirw y vlwyddyn honno, sef 1607, a’r brain a’r adar hevyd a vvuant veirw val i bydde anodd iawn gael gweled yr haf (1608 rhac wyneb) vn vwyalchen nac aderyn bronfraith yn vyw.


A loose translation:


§1. 1606. When Christ was aged one thousand six hundred and six, around the Conversion of St Paul [25 January], the sea flooded the land in Bristol and in a number of other places so that there were great losses of men and livestock.

§2. And during the following harvest a comet appeared between the north and the west, and that was around the Nativity of the Virgin Mary [8 September]. And that season was very rainy, so that only a little mixed corn could be sown.

§3. And around St Andrew’s Day [30 November] that year, it started to freeze severely, and there was also a lot of snow. At that time all the major rivers froze, so that people travelled across the Thames with all kinds of carriages, and travelled over Tal-y-cafn on the ice, and over Llyn Tegid and over the River Dee on the upper side of Chester bridge, so that people played football next to the causeway.

§4. And many sheep and animals died in that year, 1607, and the crows and birds also died, so it would be very difficult to see even one blackbird or thrush alive the following summer, 1608.


Some notes


§1 describes the sea flooding the land in Bristol and the surrounding area in January 1607 (1606 according to the Julian calendar). Some argue that the flooding was caused by a high tide coinciding with stormy weather, but others argue that it was in fact caused by a tsunami. Both sides have strong arguments. You can read further about it here. In the past Brysto was often used in Welsh for Bristol, originally Bristow or Brigstow.

[from A true Report of Certain Wonderfull Ouerflowings, 1617; Jisc Historical Texts]


§2 refers to a comet (literally a ‘star with a tail’) that appeared in September. We can be certain that this was Halley’s Comet – but Edmond Halley had not yet been born to give it his name! In a study of harvests between 1480 and 1619, W.G. Hoskins stated that the harvest of 1607 was indeed very poor.


§3 describes the severe winter of 1607–8, when the river Thames froze over. John Jones here mentions all kinds of vehicles crossing the river over the ice – this was the time of the famous Thames Frost Fairs. In the fairly contemporary Bristol Chronicle, for winter 1607–8, it was reported: ‘November the 20th 1607 began a frost which lasted till February 8 following at which time the River of Severn and Wye were so hard frozen that people did pass on foot from side unto the other and played gambols and made fires to roast meat upon the ice.’


Tal-y-cafn in the Conwy Valley was an important crossing point on the river Conwy, and a ferry would carry passengers across the river until a bridge was built there in 1897. Pêl draed, rather than today’s pêl droed, was the usual form of the word for ‘football’ – in the same way as we have siop lyfrau (books shop) for the English book shop.



142 views0 comments
  • Ann Parry Owen

[please scroll down for the English Version]


Tybed sut dywydd gawn ni dros y Nadolig eleni? Dyma gofnod o’r tywydd dros ddeuddeng niwrnod y Nadolig yn ardal Llangollen yn 1469 neu 1486.

Ysgrifennwyd y cofnod gan y bardd a’r ysgrifydd Gutun Owain ar gyfer deuddeng niwrnod y Nadolig, o ddydd Nadolig hyd nos Ystwyll (5 Ionawr). Bu Gutun yn gweithio fel bardd ac ysgrifydd yn Abaty Glyn-y-groes yn Llangollen yn ail hanner y bymthegfed ganrif, ac mae’n debygol iawn mai yno yr ysgrifennodd y cofnod hwn.


Yn anffodus, nid yw Gutun yn nodi’r flwyddyn, ond fel y gwelwch chi mae diwrnod Nadolig a dydd Calan yn syrthio ar ddydd Llun, felly mae 1469, 1475, 1480 a 1486 yn bosibl. (1469 oedd barn J. Gwenogvryn Evans, a 1486 yw barn Daniel Huws yn ei Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir.)


Mae’n ddiddorol mai ôd yw ei air am eira, sef gair sydd bellach yn gyfyngedig i ambell ardal yn y gogledd-ddwyrain, fel Rhosllannerchrugog.


Am arwyddocâd arbennig tywydd Deuddeng Niwrnod y Nadolig o safbwynt rhag-weld tywydd y flwyddyn ganlynol, gweler https://unireadinghistory.com/2014/12/23/937/amp/


Llawysgrif rhif 131 yng nghasgliad Peniarth Llyfrgell Genedlaethol Cymru; bydd ar gael ar lein ar wefan y Llyfrgell cyn hir.



Will we have a White Christmas this year?


I wonder what sort of weather we’ll have over Christmas this year? Here is a daily account of the weather over the Twelve Days of Christmas recorded near Llangollen, probably in 1469 or 1486.

The account was written by the poet and scribe Gutun Owain over the twelve days of Christmas: from Christmas Day to the Twelfth Night (5 January). Gutun worked as a poet and scribe in the abbey of Valle Crucis in Llangollen in the second half of the fifteenth century, and it is likely that it was there that he wrote this account.


Unfortunately, Gutun did not record the year, but as you see here Christmas Day and New Year’s Day both fell on a Monday, so 1469, 1475, 1480 and 1486 are possible. (J. Gwenogvryn Evans favoured 1469 and Daniel Huws favours 1486 in his Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800–c.1800, soon to be published.)


It is interesting that Gutun uses the word ôd for snow, a word that is by now limited to some areas of north-east Wales, such as Rhosllannerchrugog.


For the significance of the weather over the Twelve Days of Christmas as regards forcasting the weather for the following year, see https://unireadinghistory.com/2014/12/23/937/amp/


Manuscript number 131 is in the National Library of Wales Peniarth Collection which will soon be available online on the Library's website.




202 views1 comment
bottom of page